歌词塔 搜索歌曲

Hughes: Calon Lan歌词

Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân.
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos.
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd.
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd.
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos.
Dim ond calon lân all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Hwyr a bore fy nymuniad,
Gwyd i'r nef ar adain cân.
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos.
Dim ond calon lân all ganu,
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Amen!
更多>

Katherine Jenkins最新专辑

更多>

Katherine Jenkins最新歌曲