Traditional: All Through The Night Holl amrantau'r sêr ddywedant Ar hyd y nos Dyma'r ffordd i fro gogoniant Ar hyd y nos; Golau arall yw tywyllwch I arddangos gwir brydferthwch; Teulu'r nefoedd mewn tawelwch Ar hyd y nos O Mor siriol gwena'r seren Ar hyd y nos I oleuo'i chwaer ddaearen Ar hyd y nos Nos yw henaint pan ddaw cystudd Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos O Mor siriol gwena'r seren Ar hyd y nos I oleuo'i chwaer ddaearen Ar hyd y nos Nos yw henaint pan ddaw cystudd Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd Rhown ein golau gwan i'n gilydd Ar hyd y nos